English

Mae Awst & Walther yn fonograff gynhwysfawr o waith y ddeuawd artistig, Manon Awst a Benjamin Walther. Mae’r llyfr yn cyflwyno eu dull arbrofol sy’n seiliedig ar ymchwil drwy ddisgyblaethau cerflunio, gosodweithiau a pherfformio—gan archwilio cyd-destun gwleidyddol-gymdeithasol y gwaith a gynhyrchwyd ganddynt yn ystod eu deng mlynedd o gydweithio.

Daeth Manon a Benjamin at DoCo i ddatblygu cysyniadau cychwynnol i’w llyfr gan drosglwyddo’r gwaith o ddylunio a chysodi’r llyfr i’r stiwdio yn hwyrach yn y broses.

Briff Awst & Walther oedd i greu llyfr a fyddai’n rhoi mewnwelediad awthentig i’w ymarfer artistig. Dangosodd y ddeuawd yr awydd i bwysleisio’r deuoliaeth rhwng eu gwaith gorffenedig glân a phur law yn llaw â’r broses o greu’r gwaith. Proses a fyddai’n aml yn un blêr, di-drefn ac ar hap.

Mae ffotograffau personol o fywyd teuluol, golygfeydd stiwdio a sesiynau ymchwil yn gofroddion cyfosodedig drwy’r llyfr. Wedi eu argraffu ar bapur tennau â lliw, fe bwysleisir deuoliaethau gwaith y ddeuawd drwy gyfrwng deunydd.

Publisher: DISTANZ, Berlin
Fformat: 170mm x 220mm, 336pp
Cleient: Awst & Walther
Gwasanaethau: Concept, Design