English

Wedi’i sefydlu yn ôl yn y 90au cynnar, mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn un o wyliau gwerin adnabyddus Cymru. Dyma ŵyl sydd wedi goresgyn sawl sialens ar hyd y blynyddoedd o’i chyfnod yn atynnu miloedd o ffans cerddoriaeth i fwynhau gwledd o artistiaid rhyngwladol i’w blynyddoedd diweddar wedi ei sefydlu ymysg tafarnadai’r dref.

Daeth Sesiwn Fawr Dolgellau at DoCo i ail-frandio’r ŵyl ar eu 25ain pen-blwydd.

Canolbwyntiodd DoCo ar greu brand oedd ag iddi deimlad a diwyg crefftus ac wedi’i gwneud â llaw. Cydweithiodd DoCo â’r artist dyfrliw, Teresa Jenellen, i greu asedau blynyddol yr ŵyl gan roi canolbwynt awthentig ac organig i’r holl waith.

Cyfnod gweithgarwch: 2017–2019
Lleoliad: Dolgellau
Dyfrliw: Teresa Jenellen
Gwasanaethau: Brandio, Dylunio, Print, Cyfryngau Cymdeithasol, Cynnyrch