English

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn un o wyliau diwylliannol mwyaf arwyddocaol Ewrop. Yn llawn hanes a thraddodiad, mae’n ŵyl sy’n denu dros 150,000 o ymwelwyr yn flynyddoedd ac yn ganolbwynt dathlu diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg. Tarrwch gipolwg ar gyrion yr ŵyl yma, fodd bynnag, ac fe welwch ddathliad byrlymus ac egnïol arall. Maes B yw brawd bach drygionus yr Eisteddfod a phinacl calendr y Sîn Roc Gymraeg.

Roedd DoCo yn gyfrifol am ail-frandio cymydog swnllyd yr Eisteddfod â brand hyd yn oed yn fwy swnllyd.

Fe fynychir Maes B gan dros 2,000 o oedolion ifanc bob blwyddyn. Roedd gofyn felly am greu brand hynod addasadwy oedd am orchfygu gofynion sawl platfform cymdeithasol—prif ffocws marchnata’r ŵyl.

Crewyd brand deinamig a bywiog gan DoCo a oedd yn addasu i anghenion yr ŵyl.

Cyfnod gweithgarwch: 2018–2019
Lleoliad: Amrywiol
Gwasanaethau: Brandio, Dylunio, Digidol