English

Penwythnos llawn dop o sgyrsiau, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf o fewn muriau hanesyddol tref Caernarfon. Mae’r grŵp o wirfoddolwyr di-flino wrth wraidd Gŵyl Arall wedi bod yn brysur yn cynnal digwyddiadau llenyddol a diwyllianol law yn llaw â digwyddiadau cerddoriaeth ers dros deng mlynedd a hynny yn rhai o gilfachau a chorneli mwyaf anghysbell Caernarfon.

Daeth Gŵyl Arall at DoCo ar flwyddyn eu degfed gŵyl i greu brand a fyddai’n gosod sylfaen i’r deng mlynedd nesaf o weithgarwch.

Daeth ysbrydoliaeth Gŵyl Arall o wyliau tebyg megis Gŵyl Talacharn. Datgelodd ymchwil DoCo fod cysyniad gwreiddiol y trefnwyr o ddefnyddio lleoliadau oedd yn bodoli eisioes yn parhau i fod yn ganolbwynt i’r ŵyl.

Datblygodd DoCo frand hyblyg oedd wedi ei selio ar hanaethiadau amrywiol o leoliad yr ŵyl.

Cyfnod gweithgarwch: 2018–Heddiw
Lleoliad: Caernarfon
Cleient: Gŵyl Arall
Gwasanaethau: Brandio, Dylunio