English

Mae DoCo’n stiwdio dylunio graffeg yng Nghaernarfon. Y dylunydd llawrydd, Dafydd Owain, sydd yn arwain y stiwdio a’i phrif allbwn o waith brandio a print. Mae DoCo wedi cynhyrchu gwaith i sawl cleient dros Gymru a thu hwnt gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl Arall a DISTANZ Verlag (Berlin). O dro i dro, mae Dafydd yn cydweithio a phobl greadigol eraill i ddatblygu prosiectau digidol.